Penalun

Penalun
Pentref Penalun
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth809 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6597°N 4.7228°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000461 Edit this on Wikidata
Cod OSSS117992 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/au y DUHenry Tufnell (Llafur)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Penalun[1] (Saesneg: Penally).[2] Saif ger yr arfordir, fymryn i'r de-orllewin o dref Dinbych y Pysgod. Ceir yma orsaf ar gangen Doc Penfro o Reilffordd Gorllewin Cymru. Mae gan y fyddin faes tanio rhwng y pentref a'r môr. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn nadreddu drwy'r gymuned.

Yn ôl traddodiad, yma y ganwyd Sant Teilo, ac roedd clas cynnar yma. Yn yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Nicolas a Sant Teilo ac sy'n dyddio o tua'r 13g, ceir dwy groes Geltaidd; ystyrir un o'r rhain gan lawer fel y gorau yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]

Rhan o groes Geltaidd ym mynwent yr eglwys


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  4. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne