Pencadlys BBC Cymru | |
---|---|
BBC Wales Headquarters | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Swyddfa darlledu |
Arddull bensaernïol | Pensaerniaeth uwch-dechnoleg |
Lleoliad | Canol Caerdydd |
Cyfeiriad | 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd CF10 1FP |
Gwlad | Cymru |
Tenantiaid cyfedol | BBC Cymru S4C Manwerthu cymysg |
Dechrau adeiladu | 7 Rhagfyr 2015[1] |
Gorffenwyd | 1 Awst 2019 |
Cost | £100,000,000 |
Technical details | |
Nifer o loriau | 5[2] |
Arwynebedd y llawr | 14,454 m2 (155,580 tr sg)[3] |
Cynllunio ac adeiladu | |
Client | BBC Cymru |
Perchennog | Rightacres Property Company Ltd |
Landlord | Rightacres |
Prif gontractwr | ISG UK Construction West[1] |
Pensaer | Gerard Evenden[4] |
Cwmni pensaernïol | Foster + Partners[5] |
Datblygwr | Rightacres Property[2] |
Peiriannydd | Arup |
Peiriannydd strwythurol | Arup[1] |
Peiriannydd sifil | AECOM |
Quantity surveyor | Currie & Brown |
Gwefan | |
centralsquarecardiff.co.uk/ |
Mae Pencadlys BBC Cymru (Saesneg: BBC Wales Headquarters) yn adeilad yn Sgwâr Canolog, Caerdydd sy'n cynnwys swyddfeydd a stiwdios ar gyfer BBC Cymru yn ogystal â gwasanaethau technegol S4C.[6] Mae'r adeilad gwerth £120 miliwn yn cymryd lle hen Ganolfan Ddarlledu BBC Cymru yn Llandaf,[5]. Cyfeiriad swyddogol yr adeilad yw 3 Sgwâr Canolog.
Cynlluniwyd yr adeilad gan Foster a'i Bartneriaid, ac mae'n darparu lle ar gyfer 1,200 o staff ar bedwar llawr, gyda gofod ar gyfer swyddfeydd, stiwdios a chynhyrchu. Mae'r adeilad hanner maint y pencadlys blaenorol yn Llandaf. Bydd desgiau ar gael i 750 o staff gyda'r disgwyl na fydd pawb yn gweithio yn yr adeilad ar unrhyw adeg. Bydd y llawr gwaelod yn ofod cyhoeddus a masnachol gyda unedau wedi eu gosod ar gyfer siopau. Mae'r adeilad ar hen safle gorsaf fysiau Caerdydd Canolog.[7] Rhagwelir y bydd tua 50,000 o bobl yn ymweld â'r adeilad newydd bob blwyddyn. Cytunodd y BBC ar brydles 20 mlynedd ar yr adeilad am rent blynyddol o tua £25 fesul troedfedd sgwâr y flwyddyn gyda chwmni Rightacres Property, datblygwr y Sgwâr Canolog.[8]