Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 | |||
---|---|---|---|
Dyddiad | 1 Chwefror – 16 Mawrth 2019 | ||
Gwledydd | |||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Cymru (27fed tro) | ||
Y Gamp Lawn | Cymru (12fed teitl) | ||
Y Goron Driphlyg | Cymru (21ain teitl) | ||
Tlws y Mileniwm | Lloegr | ||
Quaich y Ganrif | Iwerddon | ||
Tlws yr Auld Alliance | Ffrainc | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Ceisiau a sgoriwyd | 84 (5.6 y gêm) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Owen Farrell (59) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Jonny May (6) | ||
Chwaraewr y bencampwriaeth | Alun Wyn Jones[1] | ||
Gwefan swyddogol | sixnationsrugby.com | ||
|
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 yw'r 20fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 16 Mawrth 2019. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[2]. Enillodd Cymru y bencampwriaeth gyda Camp Lawn, eu cyntaf ers 2012.
Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.