Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1884 | |||
---|---|---|---|
![]() E T Gurdon Capten Lloegr | |||
Dyddiad | 5 Ionawr – 12 Ebrill 1884 | ||
Gwledydd | ![]() ![]() ![]() ![]() | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | ![]() | ||
Y Goron Driphlyg | ![]() | ||
Cwpan Calcutta | ![]() | ||
Gemau a chwaraewyd | 6 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Berry (2) Bolton (2) | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1884 oedd yr ail yn y gyfres o Bencampwriaethau'r Pedair Gwlad rygbi'r undeb. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 5 Ionawr a 12 Ebrill 1884. Ymladdwyd hi ganLoegr, Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Enillodd Lloegr y bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol ac wrth guro'r tair gwlad arall enillodd Y Goron Driphlyg am yr eildro.
Roedd y Bencampwriaeth hon yn fwyaf nodedig am anghydfod a gododd o'r gêm rhwng Lloegr a'r Alban, pan wrthwynebwyd cais buddugol Lloegr gan yr Albanwr. Roedd y timau’n anghytuno â’r dehongliad o ddeddf taro ymlaen y sgoriodd Richard Kingsley o Loegr ohoni a dywedwyd wrth yr Alban i dderbyn y penderfyniad, a gwrthodwyd eu cais am apêl gan Loegr. Arweiniodd y teimladau chwerw a achoswyd gan y sefyllfa hon at greu'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ym 1886, i greu corff derbyniol o reolau y byddai'r holl aelodau'n cytuno iddynt.