Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1885 | |||
---|---|---|---|
![]() Tîm Cymru v. Lloegr [1] | |||
Dyddiad | 3 Ionawr - 21 Chwefror 1885 | ||
Gwledydd | ![]() ![]() ![]() ![]() | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Heb ei gwblhau[2] | ||
Gemau a chwaraewyd | 4 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | ![]() ![]() ![]() | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | ![]() ![]() | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1885 oedd y drydedd ornest yng nghyfres Pencampwriaethau'r Pedair Gwlad rygbi'r undeb. Ymladdwyd hi ganLoegr, Iwerddon,Yr Alban, a Chymru ond ni chafodd ei chwblhau.
Roedd Pencampwriaeth 1885 yn nodedig am yr anghydfodau a chododd rhwng Undebau’r gwledydd a arweiniodd at atal cwblhau'r twrnamaint llawn. Gwrthododd Lloegr a'r Alban wynebu ei gilydd oherwydd yr anghytundeb dyfarnu o'u cyfarfyddiad ym 1884. Methodd Cymru a'r Iwerddon â chyfarfod hefyd oherwydd anghydfodau undeb.[3] Profodd Pencampwriaeth 1885 engrhaifft prin o ailchwarae gêm hefyd, pan roddwyd y gorau i gêm Iwerddon yn erbyn yr Alban yn Ormeau ar ôl i dywydd gwael orfodi rhoi'r gorau i chwarae. Chwaraewyd yr ail gêm yn yr Alban.[3]