Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1891 | |||
---|---|---|---|
William Bowen, capten Cymru v Lloegr | |||
Dyddiad | 3 Ionawr - 7 Mawrth 1891 | ||
Gwledydd | Lloegr Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | yr Alban (3ydd teitl) | ||
Y Goron Driphlyg | yr Alban (teitl 1af) | ||
Cwpan Calcutta | yr Alban | ||
Gemau a chwaraewyd | 6 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Bancroft (7) Boswell (7) McEwan (7) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Clauss (3) Lockwood (3) Wotherspoon (3) | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1891 oedd y nawfed ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 3 Chwefror a 17 Mawrth. Ymladdwyd hi ganLoegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.
Enillwyd Pencampwriaeth 1891 gan yr Alban, y pedwerydd tro i'r wlad gyrraedd y tabl, ond y tro cyntaf i'r Alban gipio'r Goron Driphlyg.
Bu newidiadau i'r rheol yn ystod y tymor hwn, roedd hyn yn cynnwys cyflwyno goliau cosb. Cyflwynwyd ciciau cosb ym 1882 ond ni ellid gwneud unrhyw ymdrechion gôl o un tan y tymor hwn. Ailenwyd y ddau ddyfarnwr yn llumanwyr a gostyngwyd eu pwerau i ddim ond nodi'r fan lle gadawodd y bêl y cae chwarae; statws a arhosodd nes i bwerau ychwanegol gael eu cyflwyno ym 1982.[1] Erbyn hyn, gallai chwaraewyr godi pêl farw, a gosodwyd y llinell bêl farw dim mwy na 25 llath y tu ôl i'r llinell gôl.[1]