Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1894 | |||
---|---|---|---|
![]() Tîm Rygbi Lloegr v Cymru | |||
Dyddiad | 6 Ionawr - 17 Mawrth 1894 | ||
Gwledydd | ![]() ![]() ![]() ![]() | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | ![]() | ||
Y Goron Driphlyg | ![]() | ||
Cwpan Calcutta | ![]() | ||
Gemau a chwaraewyd | 6 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | ![]() | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | ![]() ![]() ![]() | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1894 oedd y ddeuddegfed ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 6 Ionawr a 17 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru. Wrth ennill pob un o'r tair gêm, enillodd Iwerddon y Bencampwriaeth am y tro cyntaf a hefyd cipio'r Goron Driphlyg am y tro cyntaf. Wedi bod ar frig y tabl y flwyddyn gynt daeth Cymru yn olaf gan lwyddo i ennill dim ond un gêm.