Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1897 | |||
---|---|---|---|
Tîm Lloegr (v Cymru) | |||
Dyddiad | 9 Ionawr - 13 Mawrth 1897 | ||
Gwledydd | Lloegr Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | neb | ||
Cwpan Calcutta | Lloegr | ||
Gemau a chwaraewyd | 4 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Byrne (12) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Bulger (2) Gardiner (2) | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1897 oedd y bymthegfed ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd pedair gêm rhwng 9 Ionawr a 13 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.
Dim ond un gêm a gwblhaodd Cymru yn ystod y bencampwriaeth hon wedi i Undeb Rygbi Cymru dynnu allan o’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ym mis Chwefror 1897 oherwydd yr anghydfod am roi tysteb i Arthur Gould, oedd yn cael ei ystyried fel tâl am chwarae gêm amatur gan y gwledydd eraill. Gan hynny nid oedd Cymru yn gymwys i chwarae unrhyw gemau rhyngwladol pellach.
Roedd y rheolau ar y pryd yn nodi y byddai'r tabl terfynol yn cael ei benderfynu ar bwyntiau gêm ac yna pwyntiau a sgoriwyd. Wrth i bob tîm orffen gyda dau bwynt gêm, bu'r bencampwriaeth yn ddamcaniaethol gyfartal. Hawliodd Lloegr y teitl trwy eu sgôr uwch, er iddynt golli eu dwy gêm gyntaf ac ildio mwy o geisiadau a phwyntiau nag unrhyw un o'r tair gwlad arall.[1] Mae'r mwyafrif o ffynonellau yn rhestru canlyniad pencampwriaeth 1897 fel un "heb ei chwblhau" oherwydd nad oes modd dod i benderfyniad teg ar bwy oedd yn fuddugol.