Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1898 | |||
---|---|---|---|
Tîm Lloegr | |||
Dyddiad | 5 Chwefror – 2 Ebrill 1898 | ||
Gwledydd | Lloegr Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | neb | ||
Gemau a chwaraewyd | 5 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Huzzey (10) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Fookes (2) Huzzey (2) Tom Scott, (2) | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1898 oedd yr 16eg ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd pum gêm rhwng 5 Chwefror a 2 Ebrill. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, hawliodd Lloegr y teitl yn unig ar y ffaith bod yr Undebau Cartrefi eraill yn dal i fod mewn anghydfod chwerw. Roedd Undeb Rygbi'r Alban yn dal yn ddig am achos Arthur Gould; anghydfod am roi tysteb i Arthur Gould, oedd yn cael ei ystyried fel tâl am chwarae gêm amatur gan y gwledydd eraill. Penderfynodd yr Alban i beidio chware gêm yn erbyn Cymru, oherwydd yr Anghydfod. Roedd y penderfyniad hwn yn golygu mai Lloegr a arweiniodd y tabl sgorio ar ddiwedd yr ornest er y byddai enillydd gem Yr Alban V. Cymru wedi cipio'r Bencampwriaeth pe bai wedi ei gystadlu.
Mae'r mwyafrif o ffynonellau yn rhestru canlyniad pencampwriaeth 1897 fel un "heb ei chwblhau" oherwydd nad oes modd dod i benderfyniad teg ar bwy oedd yn fuddugol.