Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1901 | |||
---|---|---|---|
Jimmy Gillespie Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | |||
Dyddiad | 5 Ionawr – 16 Mawrth 1901 | ||
Gwledydd | Lloegr Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | yr Alban (5ed tro) | ||
Y Goron Driphlyg | yr Alban (3ydd teitl) | ||
Cwpan Calcutta | yr Alban | ||
Gemau a chwaraewyd | 6 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Gillespie (22) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Gillespie (4) | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1901 oedd y 19eg ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 5 Ionawr a 16 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru .
Enillodd yr Alban eu tair gêm i gipio'r bencampwriaeth am y pumed tro yn llwyr (ac eithrio dau deitl arall a rannwyd â Lloegr) a chwblhau'r Goron Driphlyg am y trydydd tro.
Roedd gêm Cymru v yr Alban i fod i gael ei chwarae ar Chwefror 2il ond cafodd ei ohirio am wythnos oherwydd marwolaeth y Frenhines Fictoria. Cafodd gêm yr Alban v Iwerddon oedd i fod i gael ei chwarae ar 16 Chwefror ei ohirio i'r 23ain oherwydd cynhebrwng y frenhines.[1]