Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008 | |||
---|---|---|---|
Y tîm buddugol yn 2008: Cymru, enillwyr y Gamp Lawn. | |||
Dyddiad | 4 Chwefror 2008 – 19 Mawrth 2008 | ||
Gwledydd | Lloegr Ffrainc Iwerddon yr Eidal yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Cymru (24ydd tro) | ||
Y Gamp Lawn | Cymru (10fed teitl) | ||
Y Goron Driphlyg | Cymru (19eg teitl) | ||
Cwpan Calcutta | yr Alban | ||
Tlws y Mileniwm | Lloegr | ||
Quaich y Ganrif | Iwerddon | ||
Tlws Giuseppe Garibaldi | Ffrainc | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Ceisiau a sgoriwyd | 50 (3.33 y gêm) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Jonny Wilkinson (50 pwynt) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Shane Williams (6 cais) | ||
Chwaraewr y bencampwriaeth | Shane Williams | ||
|
Cystadleuaeth rygbi'r undeb ydy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008 sef y nawfed yng nghyfres y Bencampwriaeth Rygbi'r Undeb. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bump penwythnos o 2 Chwefror hyd 15 Mawrth. Cyhoeddwyd y byddai Cymru yn chwarae eu holl gemau yn y Bencampwriaeth ar Sadyrnau, er mwyn denu mwy o dorfeydd. "Pencampwriaeth y Pum Gwlad" ydoedd hyd at 2000 pan ymunodd yr Eidal ac ers hynny gelwir y gystadleuaeth yn Bencampwriaeth y Chwe Gwlad; caiff ei chynnal bob blwyddyn yn y gwanwyn.
Enillwyd y bencampwriaeth gan Gymru, a gyflawnodd y Gamp Lawn am yr ail dro mewn pedair blynedd.