Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010 | |||
---|---|---|---|
Sgrym rhwng yr Alban a'r pencampwyr: Ffrainc yn Murrayfield. | |||
Dyddiad | 6 Chwefror 2010 - 20 Mawrth 2010 | ||
Gwledydd | Lloegr Ffrainc Iwerddon yr Eidal yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Ffrainc (17fed tro) | ||
Y Gamp Lawn | Ffrainc (9fed teitl) | ||
Tlws y Mileniwm | Iwerddon | ||
Quaich y Ganrif | yr Alban | ||
Tlws Giuseppe Garibaldi | Ffrainc | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Niferoedd yn y dorf | 1,055,268 (70,351 y gêm) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Stephen Jones (63 pwynt) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Keith Earls (3) Tommy Bowe (3) James Hook (3) Shane Williams (3 cais) | ||
Chwaraewr y bencampwriaeth | Tommy Bowe | ||
|
Cystadleuaeth rygbi'r undeb oedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010; yr un-deg-unfed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bump penwythnos rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2010. "Pencampwriaeth y Pum Gwlad" oedd yr enw hyd at 2000 pan ymunodd yr Eidal ac ers hynny gelwir y gystadleuaeth yn "Bencampwriaeth y Chwe Gwlad]"; caiff ei chynnal bob blwyddyn yn y gwanwyn.
Ail ddaeth Iwerddon, sef buddugwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009, ar ôl ennill tair a cholli dwy gêm. Buddugwyr 2010 oedd Ffrainc, gan guro Lloegr 12-10 yn eu gêm olaf a derbyn y gamp lawn - y cyntaf ers 2004, y nawfed ers cychwyn y gystadleuaeth yn 1910.