Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 | |||
---|---|---|---|
Dyddiad | 6 Chwefror 2015 – 21 Mawrth 2015 | ||
Gwledydd | |||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | ![]() | ||
Cwpan Calcutta | ![]() | ||
Tlws y Mileniwm | ![]() | ||
Quaich y Ganrif | ![]() | ||
Tlws Giuseppe Garibaldi | ![]() | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Niferoedd yn y dorf | 1,040,680 (69,379 y gêm) | ||
Ceisiau a sgoriwyd | 62 (4.13 y gêm) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | ![]() | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | ![]() | ||
Chwaraewr y bencampwriaeth | ![]() | ||
Gwefan swyddogol | Six Nations Website | ||
|
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 oedd y 16fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 15 Mawrth 2015. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth RBS y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc Cenedlaethol yr Alban.
Y chwe gwlad oedd Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadleuthau (y Cystadleuthau Cartref a'r Pencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma 121fed cystadleuaeth.
Iwerddon oedd y pencampwyr, am yr eildro o'r bron, y 13eg buddugoliaeth iddynt. Nhw yw enillydd cyntaf fersiwn newydd o'r tlws arobryn - tlws gyda chwe ochr, yn hytrach na phump.[2]
Torrwyd sawl record yn ystod wythnos olaf y gystadleuaeth pan roedd hi'n gwbwl bosib i un o 4 tîm guro: (Cymru, Ffrainc, Iwerddon a Lloegr) ac yn ystod yr wythnos olaf hefyd sgoriwyd 221 pwynt - y nifer mwyaf o bwyntiau i'w sgorio mewn wythnos ers cychwyn y gystadleuaeth.