Dyddiad | 6 Chwefror 2016 – 19 Mawrth 2016 | ||
---|---|---|---|
Gwledydd | |||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Lloegr (27fed tro) | ||
Y Gamp Lawn | Lloegr (13eg teitl) | ||
Y Goron Driphlyg | Lloegr (25ain teitl) | ||
Cwpan Calcutta | Lloegr | ||
Tlws y Mileniwm | Lloegr | ||
Quaich y Ganrif | Iwerddon | ||
Tlws Giuseppe Garibaldi | Ffrainc | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Niferoedd yn y dorf | 1,034,521 (68,968 y gêm) | ||
Ceisiau a sgoriwyd | 71 (4.73 y gêm) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Owen Farrell (69) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | George North (4) | ||
Chwaraewr y bencampwriaeth | Stuart Hogg | ||
|
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016 oedd y 17fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 15 Mawrth 2016. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth RBS y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc Cenedlaethol yr Alban.
Y chwe gwlad oedd Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadleuthau (y Cystadleuthau Cartref a'r Pencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma 122fed cystadleuaeth.