Dyddiad | 3 Chwefror – 17 Mawrth 2018 | ||
---|---|---|---|
Gwledydd | |||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Iwerddon (14ydd tro) | ||
Y Gamp Lawn | Iwerddon (3ydd teitl) | ||
Y Goron Driphlyg | Iwerddon (11eg teitl) | ||
Cwpan Calcutta | yr Alban | ||
Tlws y Mileniwm | Iwerddon | ||
Quaich y Ganrif | Iwerddon | ||
Tlws Giuseppe Garibaldi | Ffrainc | ||
Tlws yr Auld Alliance | yr Alban | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Niferoedd yn y dorf | 991,844 (66,123 y gêm) | ||
Ceisiau a sgoriwyd | 78 (5.2 y gêm) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Maxime Machenaud (50) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Jacob Stockdale (7) | ||
Chwaraewr y bencampwriaeth | Jacob Stockdale[1] | ||
|
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2018 yw'r 19fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 3 Chwefror a 17 Mawrth 2018. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[2]. Enillodd Cymru y bencampwriaeth gyda Camp Lawn, eu cyntaf ers 2012.
Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 124ain cystadleuaeth.