Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 | |||
---|---|---|---|
Dyddiad | 1 Chwefror – 14 Mawrth 2020 | ||
Gwledydd | |||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | (27fed tro) | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Gwefan swyddogol | sixnationsrugby.com | ||
|
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 yw'r 21af yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 14 Mawrth 2020. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[1].
Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.
Enillodd Lloegr y Pencampwriaeth ar 31 Hydref 2020, ar ôl i'r gemau oedd yn weddill gael eu gohirio o fis Mawrth oherwydd y pandemig COVID-19.