Pencampwriaeth Rygbi'r Pum Gwlad 1911 | |||
---|---|---|---|
Pierre Failliot (Ffrainc) | |||
Dyddiad | 2 Ionawr – 25 Mawrth 1911 | ||
Gwledydd | Lloegr Ffrainc Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Cymru (7fed tro) | ||
Y Gamp Lawn | Cymru (3ydd teitl) | ||
Y Goron Driphlyg | Cymru (7fed teitl) | ||
Cwpan Calcutta | Lloegr | ||
Gemau a chwaraewyd | 10 | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pum Gwlad 1911 oedd yr ail yn y gyfres o ornestau rygbi'r undeb ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Pum Gwlad yn dilyn cynnwys Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad. Gan gynnwys Pencampwriaethau blaenorol y Pedair Gwlad, hon oedd yr 29ain ornest yn y gyfres o bencampwriaeth rygbi'r undeb hemisffer gogleddol flynyddol. Chwaraewyd deg gêm rhwng 2 Ionawr a 25 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Alban a Chymru.
Enillodd Cymru'r bencampwriaeth yn llwyr am y seithfed tro. Wrth guro'r pedair gwlad arall fe wnaethant gwblhau'r Gamp Lawn am y trydydd tro mewn pedwar tymor a'r Goron Driphlyg am y seithfed tro.