Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1972

Ni chyhoeddwyd neb yn enillydd Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1972. Roedd yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon ar eu hanterth, a gwrthododd Cymru a'r Alban deithio i Ddulyn ar ôl iddynt dderbyn bygythiadau. Oherwydd hynny, ni enillodd neb y bencampwriaeth y flwyddyn honno, er i Gymru ennill y tair gêm a chwaraewyd ganddynt ac Iwerddon y ddwy gêm a chwaraewyd ganddynt. Cyhoeddodd Barry John ei ymddeoliad, yn ddim ond 27 oed, y flwyddyn honno, ond roedd Cymru'n ffodus fod Phil Bennett ar gael i gymeryd ei le fel maswr.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne