Roedd canlyniad Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1973 yn unigryw yn hanes y gystadleuaeth. Enillodd pob tim eu gemau cartref, a chan nad oedd gwahaniaeth pwyntiau a sgoriwyd a phwyntiau yn erbyn yn cael ei gymeryd i ystyriaeth yn y cyfnod yma, rhannwyd y bencampwriaeth rhwng pob un o'r pump.