Enghraifft o: | llawysgrif |
---|---|
Awdur | Lewys Glyn Cothi, Hywel Cilan |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth |
Iaith | Cymraeg |
Tudalennau | 192 |
Dechrau/Sefydlu | c. 1470 |
Genre | cywydd |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Llawysgrif Gymraeg o ail hanner y 15g yn llaw'r bardd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490) yw Llawysgrif Peniarth 109. Mae'n rhan o'r casgliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llawysgrif femrwn hir a chul sy'n mesur 238 x 99 mm ydyw, sy'n cynnwys 192 dalen a 106 o gerddi Lewys Glyn Cothi, un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr, yn ei law ei hun. Addurnir y llawysgrif â nifer o ddarluniau, rhai ohonynt mewn lliw, o arfbeisiau teuluoedd uchelwrol Cymru, ffaith sy'n dyst i ddiddordeb y bardd mewn herodraeth ac achau.
Mae'n bosibl iddi gael ei llunio er anrhydedd i'r Arglwydd William Herbert (m. 1469), sefydlydd teulu'r Herbertiaid, gan mai awdl iddo a geir ar ddechrau'r gyfrol, gydag awdl arall i'w frawd Rhisiart yn ei dilyn.
Ni cheir unrhyw gerdd y gellir ei dyddio i'r 1480au yn y casgliad. Mae'r cerddi diweddaraf y gellir eu dyddio yn perthyn i ddiwedd y 1470au, ac mae'n deg casglu fod y llawysgrif wedi'i gorffen tua'r adeg honno.