Pennsylvania

Pennsylvania
ArwyddairVirtue, liberty, and independence Edit this on Wikidata
Mathtaleithiau'r Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilliam Penn Edit this on Wikidata
En-us-Pennsylvania.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasHarrisburg Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,002,700 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Rhagfyr 1787 Edit this on Wikidata
AnthemPennsylvania Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJosh Shapiro Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, America/Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanolbarth yr Iwerydd, Northeastern United States, taleithiau cyfagos UDA Edit this on Wikidata
SirUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd119,283 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr335 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Erie, Afon Delaware Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEfrog Newydd, New Jersey, Delaware, Maryland, Gorllewin Virginia, Ohio, Ontario, Province of Quebec, Canada Uchaf, Province of Canada Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41°N 77.5°W Edit this on Wikidata
US-PA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Pennsylvania Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Pennsylvania Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Llywodraethwr Pennsylvania Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJosh Shapiro Edit this on Wikidata
Map

Mae Pennsylvania (hefyd yn Gymraeg Pensylfania)[1] yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Ei llysenw yw'r Dalaith Maen Clo a'i henw swyddogol yw Cymanwlad Pennsylvania. Y ddwy ddinas fwyaf yw Philadelphia a Phittsburgh.

Lleoliad Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau

Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn yr 17g, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion Eames Y Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.

Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y 18g cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Erbyn Cyfrifiad 2003-6 dim ond 1.5% oedd yn galw'u hunain 'o darddiad Cymreig'.[2]

Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:

Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law.

Ceir ffiniau taleithiau: Delaware i'r de-ddwyrain, Maryland i'r de, Gorllewin Virginia i'r de-orllewin, Ohio i'r gorllewin, Llyn Erie ac Ontario, Canada i'r gogledd-orllewin, Efrog Newydd i'r gogledd a New Jersey i'r dwyrain. Asgwrn cefn y dalaith yw Mynyddoedd Appalachia sy'n gorwedd yng nghanol y dalaith, o'r gogledd i'r de.

  1. Geiriadur yr Academi, [Pennsylvania].
  2. American FactFinder, United States Census Bureau. "American Community Survey 3-Year Estimates". Factfinder.census.gov. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2010.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne