Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.20863°N 4.163953°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Pentref ydy Penrhosgarnedd ( ynganiad ), sy'n rhan o blwyf Pentir, wedi ei leoli i'r de o ddinas Bangor yng Ngwynedd. Mae'r pentref yn cael ei ffinio gan yr A55 i'r de ac yn toddi fewn i Fangor wrth ymyl hen gapel Beulah i'r gogledd. Saif pentref Treborth i'r gorllewin ac ardal Minffordd i'r dwyrain.
Mae adeiladau Ysbyty Gwynedd yn sefyll ynghanol y pentre ac mae swyddfeydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma (gynt yn Dŵr Cymru).
Mae gan y pentre gangen o Ferched y Wawr[1] a thîm Talwrn y Beirdd.[2]
Mae yna ddwy ysgol gynradd yn y pentre - ysgol ddwyieithog Ysgol Y Faenol ac ysgol benodedig Gymraeg Ysgol y Garnedd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]