![]() | |
Math | pentir, penrhyn, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Lavreotiki ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Petalioi Gulf, Gwlff Saronica ![]() |
Cyfesurynnau | 37.64897°N 24.0301°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | archaeological site (Greece) ![]() |
Manylion | |
Pwynt mwyaf deheuol gorynys Attica yn ne-ddwyrain Gwlad Groeg yw Penrhyn Sounion. Mae'n enwog am ei deml hynafol gysegredig i'r duw Poseidon a'r golygfeydd rhamantus dros Gwlff Saronica ac ynysoedd y Cyclades i'r de. Mae trwyn y penrhyn yn codi 200 troedfedd uwchben y môr. Mae gwddw o dir cul yn cysylltu'r penrhyn a'r tir mawr. Ceir adfeilion gwasgaredig y dref glasurol 'Sounion' gerllaw ar lan Bae Sounion.
Saif adfeilion trawiadol 'Teml Poseidon' ar ben eithaf y penrhyn, gan roi iddo ei enw amgen yn yr iaith Roeg, Capo Kolones 'Penrhyn y Colofnau'. Mae'n rhan o'r hen acropolis (dinas gaerog). Roedd mur amdiffynnol yn rhedeg dros yr isthmws ac oddi fewn i hynny y codwyd dinas fechan. Ei phrif addurn oedd Teml Poseidon, a godwyd tua 444 CC. Yma hefyd y cafwyd hyd i ddau gerflun kouros anferth (sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Gwlad Groeg yn Athen). Ceir olion nifer o adeiladau llai ac mae'r ardal gyfan yn barc archaeolegol yng ngofal y llywodraeth.