![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,100 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2°N 4.1°W ![]() |
Cod SYG | W04000095 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd yw Pentir ( ynganiad ). Saif y pentref gerllaw y briffordd A4244 i'r de o ddinas Bangor. Llifa Afon Cegin gerllaw. Cofrestrwyd Eglwys Sant Cedol yn adeilad Gradd II gan Cadw, ac mae ar ei waliau gerfluniau cywrain o bennau.
Ffurfiwyd y gymuned o'r rhan honno o blwyf sifil Bangor oedd tu allan i ddinas Bangor ei hun. Heblaw pentref Pentir, mae'n cynnwys Penrhosgarnedd. Saif plasdy'r Faenol, Ysbyty Gwynedd a Phont Britannia o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2,403 yn 2001.
Ganed y mathemategydd John William Thomas (Arfonwyson) yn y pentref yn 1805.