Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2272°N 4.2918°W ![]() |
Cod OS | SH476729 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Llanfihangel Ysgeifiog, Ynys Môn, yw Pentre Berw[1][2] ( ynganiad ). Saif yn rhan ddeheuol yr ynys, ar briffordd yr A5, ychydig i'r gorllewin o'r Gaerwen a gerllaw Afon Cefni, ar ymylon Cors Ddyga.
Mae "berw" yn ffurf ar y gair "berwr" (cress). Berw oedd enw'r dref ganoloesol (cymuned o ffermydd a thai ar wasgar); tyfodd pentref ar y groesffordd a gafodd yr enw 'Pentre Berw'.[3]
Yn y pentref mae gwesty yr Holland Arms a chanolfan garddio fawr o'r un enw. Roedd Rheilffordd Canol Môn yn gadael y prif reilffordd i Gaergybi gerllaw'r pentref. Ar un adeg yr oedd diwydiant glo bychan yn yr ardal, a gellir gweld rhai o'r hen adeiladau o hyd.