![]() | |
Math | pentref, amgueddfa awdurdod lleol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penarth ![]() |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4134°N 3.1839°W ![]() |
![]() | |
Pentref canoloesol wedi ei ail-greu yn Cosmeston ger Larnog ym Mro Morgannwg yw Pentref Canoloesol Cosmeston. Saif heb fod ymhell o Penarth a dinas Caerdydd, o fewn Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.
Tyfodd pentref gwreiddiol Cosmeston o gwmpas tŷ caerog a adeiladwyd tua'r 12g gan deulu De Costentin, oedd yn un o'r teuluoedd Normanaidd cyntaf i ddod i dde Cymru tua dechrau'r 12g. Ymddengys fod y tŷ hwnnw eisoes yn adfail erbyn 1437. Cafwyd hyd i weddillion y pentref yn y 1980au, a chafodd ei ail-greu fel y byddai yn y 14g.[1]