Mewn ffiseg, mae theori arbennig perthnasedd (special theory of relativity), neu berthnasedd arbennig yn fyr, yn theori wyddonol ynghylch y berthynas rhwng gofod ac amser. Yn nhriniaeth wreiddiol Albert Einstein, mae'r theori wedi'i seilio ar ddau wireb:[1][2]
Mae deddfau ffiseg yn ddieithriad, yn union yr un fath, ym mhob ffrâm gyfeirio inertial (hynny yw, fframiau cyfeirio heb unrhyw gyflymiad).
Hyd nes i Einstein ddatblygu perthnasedd cyffredinol, gan gyflwyno gofod-amser crwm (neu ar ffurf cromlin) i ymgorffori disgyrchiant, ni ddefnyddiwyd yr ymadrodd "perthnasedd arbennig". Cyfieithiad a ddefnyddir weithiau yw "perthnasedd cyfyngedig"; mae "arbennig" yn golygu "achos arbennig" mewn gwirionedd.[3][4][5][6] Mae peth o waith Albert Einstein ar berthnasedd arbennig wedi'i adeiladu ar waith cynharach gan Hendrik Lorentz a Henri Poincaré. Daeth y theori yn ei hanfod yn gyflawn ym 1907.[7]
↑"Science and Common Sense", P. W. Bridgman, The Scientific Monthly, Cyfr. 79, Rhif. 1 (Jul. 1954), tt. 32–39.
↑The Electromagnetic Mass and Momentum of a Spinning Electron, G. Breit, Proceedings of the National Academy of Sciences, Cyfr. 12, t.451, 1926
↑Kinematics of an electron with an axis. Phil. Mag. 3:1-22. L. H. Thomas.]
↑Sgwennodd Einstein ei hun, yn The Foundations of the General Theory of Relativity, Ann. Ffis. 49 (1916), "Mae'r gair 'arbennig' i fod i awgrymu bod yr egwyddor wedi'i chyfyngu i'r achos ...". Gweler t. 111 o Egwyddor Perthnasedd, A. Einstein, H. A. Lorentz, H. Weyl, H. Minkowski, ailargraffiad Dover o gyfieithiad 1923 gan Methuen and Company.]
↑Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :2