Pet Shop Boys yn perfformio'n fyw yn Boston yn 2006 | |
---|---|
Gwreiddiau | Llundain, Lloegr |
Cefndir | Grŵp / band |
Math | pop |
Blynyddoedd | 1981 - presennol |
Label | EMI, Parlophone, Spaghetti |
Aelodau presennol | Neil Tennant Chris Lowe |
Artistiaid cysylltiedig | Electronic, Yoko Ono |
Gwefan | petshopboys.co.uk |
Deuawd pop electronig o Loegr yw Pet Shop Boys a ffurfiwyd yn Llundain yn 1981. Aelodau'r band yw Neil Tennant, sef y prif leisydd, yr allweddellau a'r gitâr o dro i dro a Chris Lowe sy'n chwarae'r allweddellau ac yn canu'n achlysurol.
Mae Pet Shop Boys wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau ledled y byd. Ers 1986, mae 30 o'u senglau wedi cyrraedd y 30 Uchaf yn y Siart Brydeinig a 22 ohonynt wedi cyrraedd y 10 Uchaf. Mae hyn yn cynnwys 4 cân aeth i rif un - "West End Girls", "It's a Sin", "Always on My Mind" a "Heart".