Pete Wishart AS | |
![]()
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mehefin 2001 | |
Rhagflaenydd | John Swinney |
---|---|
Geni | Dunfermline, Fife, Yr Alban | 9 Mawrth 1962
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Perth a Gogledd Swydd Perth |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Coleg Addysg Moray House |
Galwedigaeth | Gwleidydd, cerddor |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Pete Wishart (ganwyd 9 Mawrth 1962) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Perth a Gogledd Swydd Perth; mae'r etholaeth yn siroedd Clackmannan a Perth a Kinross, yr Alban. Etholwyd Pete Wishart gyntat yn Etholiad Cyffredinol 2001 dros North Tayside, cyn cael ei ethol am y tro cyntaf i sedd newydd Perth a Gogledd Swydd Perth yn 2005. Mae Pete Wishart yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe'i hyfforddwyd fel gweithiwr cymdeithasol a bu'n Gyfarwyddwr yr elusen Fast Forward sy'n hyrwyddo iechyd pobl ifanc. Dros y blynyddoedd, bu'n flaenllaw gyda chyrff sy'n gweithio yn erbyn cyffuriau niweidiol ac anghyfreithiol.
Am 15 mlynedd bu'n aelod o'r grŵp gwerin/roc Runrig a dywedir mai ef yw'r AS cyntaf sydd wedi ymddangos ar Top of the Pops.