Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol, Unol Daleithiau America, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a ddefnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.
Mae pris olew yn gallu effeithio ar economi gwledydd y byd. Yn 2008 cafwyd argyfwng ariannol byd-eang yn dilyn codiad sydyn ym mhris petroliwm. Yn ôl rhai, roedd olew hefyd wrth wraidd ymosodiad Iraq ar Kuwait yn Awst 1990, a'r Unol Daleithiau ar Iraq ychydig wedyn yn 1991 - enw ymgyrch filwrol Unol Daleithiau America yn 2003 oedd Operation Iraqi Liberation (OIL).[1] Cyfansoddodd y canwr protest David Rovics gân o'r enw "Operation Iraqi Liberation (OIL)" a ddaeth yn anthem i'r mudiad gwrth-ryfel.