Teulu o ffesantod, petris, ceiliogod coedwig (yn cynnwys yr iâr ddof), twrcïod, sofieir yr Hen Fyd, peunod ac adar trwm eraill ydyw Phasianidae, sy'n air gwyddonol, Lladin. Mae'r teulu hwn yn cynnwys llawer o'r prif adar a fegir er mwyn eu saethu a'u hela.[1] Mae'n deulu cymharol fawr a chaiff ei rannu'n ddau isdeulu'n aml: y Phasianinae a'r Perdicinae. Y cytras Phasianidae yw'r gangen fwyaf o'r Galliformes.
Ceir ffosiliau o aelodau'r teulu, sy'n dyddio o leiaf 30 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[2]
|city=
ignored (help)