![]() | |
Enghraifft o: | lander ![]() |
---|---|
Màs | 97.9 cilogram ![]() |
Rhan o | Rosetta ![]() |
Gweithredwr | Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ![]() |
Hyd | 1 metr ![]() |
Gwefan | http://rosetta.esa.int/ ![]() |
![]() |
Cerbyd glanio'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yw Philae[1][2] Gellir ei ddiffinio fel cerbyd robotaidd gan fod ganddo elfen o reoli ei hunan, wedi iddo lanio. Fe'i cludwyd ar ei daith gan y cerbyd gofod Rosetta[3][4] nes y glaniodd ar gomed 67P/Churyumov–Gerasimenko, dros ddeg mlynedd wedi iddo adael y Ddaear.[5][6] Yn Nhachwedd 2014, ugain munud wedi iddo lanio, darganfu synhwyryddion sbectromedreg màs ar Philae polymer organig (sef polyoxymethylene) yn y llwch oedd ar wyneb y comed. Mae'r polymer hwn (sydd wedi'i wneud o garbon, hydrogen ac ocsigen) hefyd i'w canfod oddi fewn i foleciwlau biolegol organebau byw, ac felly mae'r canfyddiad hwn o bwys mawr i wyddoniaeth ac yn newid ein gwybodaeth am sut y cychwynodd bywyd.[7]
Ar 12 Tachwedd 2014, Philae oedd y cerbyd gofod cyntaf i lanio ar gomed.[8] Ffilmiodd, am y tro cyntaf erioed, luniau o wyneb comed.
Mae Philae'n cael ei reoli gan Ganolfan Ofod yr Almaen (Almaeneg: Deutsches Zentrum für Luft- und Raumfahrt e.V.) yng Nghwlen, yr Almaen.[9] Llwyddodd sawl offeryn ar fwrdd y cerbyd i gofnodi a dadansoddi gwneuthuriad cemegol a daearyddol y comed; llwyddodd hefyd i ddanfon yr wybodaeth hon yn ôl.[10]