Y Gwir Anrhydeddus Philip Hammond AS | |
---|---|
Canghellor y Trysorlys | |
Yn ei swydd 13 Gorffennaf 2016 – 24 Gorffennaf 2019 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | George Osborne |
Dilynwyd gan | Sajid Javid |
Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad | |
Yn ei swydd 15 Gorffennaf 2014 – 13 Gorffennaf 2016 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | William Hague |
Dilynwyd gan | Boris Johnson |
Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn | |
Yn ei swydd 14 Hydref 2011 – 15 Gorffennaf 2014 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Liam Fox |
Dilynwyd gan | Michael Fallon |
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth | |
Yn ei swydd 11 Mai 2010 – 14 Hydref 2011 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Arglwydd Adonis |
Dilynwyd gan | Justine Greening |
Prif Ysgrifennydd Cysgodol i'r Trysorlys | |
Yn ei swydd 2 Gorffennaf 2007 – 11 Mai 2010 | |
Arweinydd | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Theresa Villiers |
Dilynwyd gan | Liam Byrne |
Yn ei swydd 10 Mai 2005 – 6 Rhagfyr 2005 | |
Arweinydd | Michael Howard |
Rhagflaenwyd gan | George Osborne |
Dilynwyd gan | Theresa Villiers |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau | |
Yn ei swydd 6 Rhagfyr 2005 – 2 Gorffennaf 2007 | |
Arweinydd | David Cameron |
Rhagflaenwyd gan | Malcolm Rifkind |
Dilynwyd gan | Chris Grayling |
Mwyafrif | 22,134 (44.2%) |
Aelod Seneddol dros Runnymede a Weybridge | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 1 Mai 1997 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd yr etholaeth |
Manylion personol | |
Ganwyd | Philip Anthony Hammond 4 Rhagfyr 1955 Epping, Essex, Lloegr |
Cenedligrwydd | Prydeinig |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Susan Williams-Walker |
Plant | 3 |
Alma mater | Coleg y Brifysgol, Rhydychen |
Gwleidydd Ceidwadol Prydeinig yw Philip Anthony Hammond PC AS (ganwyd 4 Rhagfyr 1955)[1]. Roedd yn Ganghellor y Trysorlys rhwng Gorffennaf 2016 a Gorffennaf 2019.
Etholwyd Hammond i'r Senedd yn 1997 fel yr Aelod Seneddol dros Runnymede ac yn Weybridge.
Cafodd ei ddyrchafu i'r Cabinet Cysgodol gan David Cameron yn 2005 fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau, ac aros yn swydd hyd ad-drefnu 2007, pan ddaeth yn Brif Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys. Ar ôl ffurfio y Llywodraeth Glymblaid ym Mai 2010, penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a thyngodd lw i'r Cyfrin Gyngor. Wedi ymddiswyddiad Liam Fox oherwydd sgandal ym mis Hydref 2011, dyrchafwyd Hammond i Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac, ym mis Gorffennaf 2014, daeth yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a Materion y Gymanwlad.[2][3] Wedi i Theresa May ddilyn Cameron fel Prif Weinidog ym mis Gorffennaf 2016, penodwyd Hammond yn Ganghellor y Trysorlys.