Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Philippe Gilbert |
Dyddiad geni | 5 Gorffennaf 1982 |
Taldra | 1.79m |
Pwysau | 67kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Arbenigwr y clasuron |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2003–2008 2009– |
Française des Jeux Silence-Lotto |
Golygwyd ddiwethaf ar 7 Gorffennaf 2011 |
Seiclwr proffesiynol o Wlad Belg yw Philippe Gilbert (ganed 5 Gorffennaf 1982, Remouchamps, Aywaille). Mae Gilbert yn arbenigo mewn clasuron y ffordd. Ef yw'r ail berson, a'r Belgwr cyntaf erioed, i ennill yr holl dri o Glasuron Ardennes yn yr un flwyddyn.
Mae Gilbert wedi ennill sawl ras clasurol, gan gynnwys Paris-Tours (2008, 2009), Giro di Lombardia (2009, 2010), Amstel Gold Race (2010, 2011), La Flèche Wallonne (2011) a Liège–Bastogne–Liège (2011). Mae hefyd wedi ennill cymal o'r Giro d'Italia a'r Tour de France, yn ogystal â dau gymal o'r Vuelta a España.