Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Sadwrn, irregular moon |
---|---|
Màs | 8.289 ±0.009 |
Dyddiad darganfod | 16 Awst 1898 |
Cysylltir gyda | Phoebe ring |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hyd y gwyddom, Phoebe yw'r fwyaf allanol o loerennau Sadwrn. Mae Phoebe bron yn bedairgwaith mor bell oddi wrth Sadwrn na Iapetws:
Ym mytholeg Roeg mae Phoebe yn ferch i Wranws a Gaia ac yn nain i Apolo ac Artemis.
Cafodd y lloeren ei darganfod gan Pickering ym 1898.
Mae'r mwyafrif o loerennau Sadwrn yn ddisglair ond mae albedo Phoebe yn isel iawn (.05), bron yn ddu. Mae pob un o loerennau Sadwrn ac eithrio Phoebe ac Iapetws yn cylchio o fewn plaen cyhydedd Sadwrn. Mae cylchdro Phoebe yn gogwyddo bron yn 175 gradd (Mae pegwn y gogledd Phoebe yn wynebu'r cyfeiriad gwrthwynebol i begwn y gogledd Sadwrn).
Oherwydd cylchdro echreiddig 'wysg ei gefn' ac albedo anarferol Phoebe gallai'r lloeren fod yn gomed neu yn wrthrych o Wregys Kuiper sydd wedi cael ei gipio gan Sadwrn. Mae data oddi wrth y chwiliedydd Cassini'n gadarnhau'r syniad hwn gyda'r darganfyddiad o garbon deuocsid yn ei chreigiau. Mae Phoebe yn ymddangos i fod yn gemegol debyg i Blwton a Thriton.
Ac eithrio Hyperion, Phoebe ydy'r unig un o loerennau Sadwrn sydd ddim yn cylchio'n gydamserol.
Gallai deunydd o arwyneb Phoebe sydd wedi cael ei dorri ymaith gan drawiadau meteor meicrosgopig fod yn gyfrifol am yr arwynebau tywyll ar Hyperion ac ar hemisffer arweiniol Iapetws.