Pianydd yw'r enw a roddir ar berson sy'n canu'r piano. Caiff ei ganu ym mhob genre o gerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys jazz, cerddoriaeth glasurol a'r felan. Mae'r gallu i ganu piano'n golygu y gall y pianydd hefyd chwarae'r allweddellau. Ystyrir Franz Liszt fel y pianydd gorau erioed gan lawer; disgrifiwyd ef gan Anton Rubinstein: "O'i gymharu â Liszt, plant yw'r holl bianyddion eraill."[1]
Yn aml, mae'r pianydd yn cyfeilio i unawdydd; pryd hyn, gelwir y person sy'n canu'r piano yn 'gyfeilydd'.