Pibau uilleann

Pibau uilleann
Mathpibgod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Set lawn o'r Pibau Uilleann
Set ymarfer heb drôn a rheolyddion
Canu ar y pibau hanner set

Pibau uilleann (Gwyddeleg: Pioban-Uilleann; Saesneg Uilleann Pipes) yw'r enw ar fath o pibgod o'r Iwerddon. Daw'r enw o'r Wyddeleg uilleann [ˈiːlʲən̪ˠ ] am "penelin" - mae'r gair elin yn y Gymraeg gytras â'r Wyddeleg.[1] Fe'u datblygwyd yn y ffurf a ddefnyddir heddiw yn y 18g (tua 1760-1780) ac nid ydynt wedi newid fawr ddim ers hynny. Gellir disgrifio eu sain fel rhai cymharol eiddil a mwyn (o'i gymharu â sain mwy cras pibau'r Alban).

  1. "elin". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2022.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne