Math | cyffordd, atyniad twristaidd |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Cysylltir gyda | Regent Street, Piccadilly, Shaftesbury Avenue, Haymarket, Coventry Street, Glasshouse Street, Regent Street St James's |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.51°N 0.1344°W |
Ardal adnabyddus yn Ninas Westminster, canol Llundain, yw Piccadilly Circus. Mae'n enwog am y cerflun o Anteros (a elwir yn boblogaidd yn Eros) sy'n coffa Iarll Shaftesbury, dyngarwr o'r 19eg ganrif, a hefyd am yr hysbysebion ar un o'r adeiladau yno. Cynlluniwyd Piccadilly Circus yn wreiddiol ym 1819 gan John Nash, fel rhan o gynllun i weddnewid strydoedd y West End ar gyfer y Tywysog Rhaglaw. Cyfeiria'r gair "circus" at siap crwn y groesffordd a oedd yn cysylltu Piccadilly a Regent Street, ac er nad yw'n grwn bellach mae wedi cadw yr enw. Lleolir Gorsaf danddaearol Piccadilly Circus yno.