Cerdd Saesneg Canol gyflythrennol a briodolir i William Langland oddeutu 1362 yw Piers Plowman. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth ydyw, a ysgrifennir o safbwynt y bardd drwy gyfres o freuddwydion gweledigaethol sy'n ymdrin â phynciau cymdeithasol ac ysbrydol yn Lloegr yr Oesoedd Canol.
Tri fersiwn o'r gerdd sydd: testun A, ffurf fer arni sy'n dyddio o'r 1360au; testun B, diwygiad ac estyniad o destun A a gyflawnwyd yn niwedd y 1370au; a thestun C, ffurf ar destun B o'r 1380au sydd yn canolbwyntio ar bynciau athrawiaethol y gerdd yn hytrach na'i nodweddion llenyddol. Mae rhyw hanner cant o lawysgrifau o'r gerdd yn goroesi, gan gynnwys llsgr. NLW 733B a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
Cafodd y gwaith hwn gryn ddylanwad ar lenyddiaeth Saesneg Canol a llên Lloegr hyd at gyfnod y Stiwartiaid, yr hyn a elwir traddodiad Piers Plowman. Yn y gerdd hon mae'r sôn cyntaf o Robin Hwd yn llên Lloegr.