Pietro Bembo | |
---|---|
Portread o'r Cardinal Bembo yn ei wisg eglwysig, gan Titian (tua 1540). | |
Ganwyd | 20 Mai 1470 Fenis |
Bu farw | 19 Ionawr 1547 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, llyfrgellydd, hanesydd, cyfieithydd, awdur ysgrifau, offeiriad Catholig, dyneiddiwr, ieithegydd, person dysgedig, rhyddieithwr, esgob Catholig, gweinidog yr Efengyl |
Swydd | cardinal, camerlengo |
Adnabyddus am | Gli Asolani, Prose nelle quali si ragiona della volgar lingua, De Aetna, Rime |
Tad | Bernardo Bembo |
Llinach | House of Bembo |
Beirniad, ysgolhaig, a bardd Eidalaidd oedd Pietro Bembo (20 Mai 1470 – 18 Ionawr 1547)[1] a hefyd yn gardinal, un o Farchogion yr Ysbyty, ac un o ffigurau blaenllaw y Dadeni Dysg. Fel meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd, Bembo oedd llenor blaenaf yr Eidal yn y 16g ac fe ddalai'r ffyniant llenyddol a sbardunwyd gan Dante, Petrarch, a Boccaccio yn y cyfnod cynt. Yn anad dim, beirniad chwaeth a safonwr y llên genedlaethol ydoedd, a thrwy ei ddylanwad llewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop. Câi barddoniaeth Bembo ei hanwybyddu gan y mwyafrif o feirniaid diweddarach. Serch hynny, roedd yn un o lenorion dyneiddiol a llyswyr dysgedig amlycaf ei oes ac fe gafodd effaith barhaol ar ddatblygiad yr iaith Eidaleg.[2]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw EWB