Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bronllys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.034°N 3.217°W |
Cod post | LD3 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan yng nghymuned Bronllys, Powys, Cymru, Powys yw Pipton. Saif yn ardal Brycheiniog tua hanner ffordd rhwng Y Gelli ac Aberhonddu. Gorwedd Pipton rhwng Afon Gwy ac Afon Llynfi ar briffordd yr A4079 sy'n cysylltu'r A470 a'r A438. Y pentrefi agosaf yw Llys-wen i'r gorllewin ac Aberllynfi (Three Cocks) i'r dwyrain.
Yn Pipton yr arwyddwyd Cytundeb Pipton rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Simon de Montfort yn 1265, cytundeb oedd yn cydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru. Yn ddiweddarach, roedd Pipton yn ganolfan cynhyrchu haearn, gwaith a ddechreuodd ddiwedd yr 17g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]