![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 504 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.952°N 4.492°W ![]() |
Cod SYG | W04000096 ![]() |
Cod OS | SH326423 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Pistyll ( ynganiad ). Gorwedd ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn, ar y ffordd B4417, ychydig i'r dwyrain o Nefyn.
Mae eglwys Pistyll, a gysegrir i Sant Beuno, yn sefydliad hynafol, gyda bedyddfaen or 12g ynddi.
Heblaw pentref Pistyll, mae cymuned a phlwyf Pistyll yn cynnwys pentref mwy Llithfaen a phentref Nant Gwrtheyrn, sydd yn awr yn ganolfan ar gyfer dysgu Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]