Enghraifft o: | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | sosialaeth ddemocrataidd |
Dechrau/Sefydlu | 1949 |
Sylfaenydd | Kamal Jumblatt |
Aelod o'r canlynol | Socialist International, Progressive Alliance |
Pencadlys | Beirut |
Gwladwriaeth | Libanus |
Gwefan | http://www.psp.org.lb/ |
Plaid wleidyddol yn Libanus yw'r Blaid Sosialaidd Flaengar (PSF/y BSF) (Arabeg: الحزب التقدمي الاشتراكي, al-hizb al-taqadummi al-ishtiraki; Ffrangeg: Parti sosialiste progressiste). Ei harweinydd presennol yw Walid Jumblatt. Mae'n blaid i'r chwith o'r canol sy'n arddel seciwlariaeth; yn swyddogol mae'n anenwadol ond yn ymarferol mae'r rhan fwyaf o'i haelodau a'i chefnogwyr yn proffesu'r ffydd Druz, enwad sy'n tarddu o Islam Shia. Ei phrif ganolfan grym yw ardaloedd Druz Mynydd Libanus.
Sefydlwyd y blaid ar y 5ed o Ionawr 1949, a'i chofrestru ar 17 Mawrth yn yr un flwyddyn. Roedd y chwe unigolyn a'i sefydlodd yn dod o wahanol gefndiroedd. Yr amlycaf ohonynt oedd Kamal Jumblatt (tad Walid Jumblatt), a ddaeth yn arweinydd y blaid.
Dan arweinyddiaeth Kamal Jumblatt roedd y BSF yn un o'r elfennau clo ym Mudiad Cenedlaethol Libanus a gefnogai hunaniaeth Arabaidd Libanus ac a gydymdemlai â'r Palesteiniaid. Oherwydd y sefyllfa yn y wlad, cododd Kamal Jumblatt filisia neu fyddin paramilwrol nerthol a chwaraeodd ran allweddol yn Rhyfel Cartref Libanus, o 1975 hyd 1990. Rheolai y rhan fwyaf o Fynydd Libanus ac ardal y Chouf. Prif elynion y milisia oedd y milisia Phalangaidd Cristnogol Maronaidd, ac yn nes ymlaen milisia Lluoedd Libanus (a ddaeth i gynnwys y Phalangiaid). Roedd cuddlofrudiad Kamal Jumblatt yn 1977 yn golled fawr i'r blaid. Fe'i olynwyd gan ei fab Walid.
Fel barn ei arweinydd, mae safbwynt y BSF wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Gellid dweud fod ei safbwynt yn un bragmataidd gyda buddiannau'r Druziaid ac annibyniaeth Libanus yn cael y flaenoriaeth. Bu'n gefnogol i Syria am gyfnod a gwrthwynebodd ddiarfogi Hezbollah, ond mewn canlyniad i dwf dylanwad Syria a'i hymyraeth dybiedig ym materion mewnol Libanus mae'r blaid yn rhan o glymblaid wrth-Syriaidd yn Senedd Libanus. Trodd yn llawer llai cefnogol i Hezbollah hefyd ac arweiniodd yr anghydfod at ymladd yn 2008 pan yrrwyd y BSF allan o ddinas Beirut a'r cyffiniau gan Hezbollah. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r BSF yn rhan o "lywodraeth undod cenedlaethol" gyda Hezbollah ac eraill.