Plaid y Refferendwm Referendum Party | |
---|---|
Sefydlwyd | 1994[1] |
Daeth i ben | 1997 |
Rhestr o idiolegau | Ewrosgeptig Asgell-Dde poblogaidd |
Roedd Plaid y Refferendwm yn blaid Ewrosgeptig yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hystyriwyd yn 'blaid un mater' ac fe'i ffurfiwyd gan Syr James Goldsmith i gystadlu yn Etholiad Cyffredinol 1997 y Deyrnas Unedig. Roedd y blaid yn galw am refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr Undeb Ewropeaidd.
I raddau, gellir dweud mai dyma oedd rhagflaenydd Plaid Annibyniaeth y DU.