Plant y strydoedd

Bachgen stryd yn Kabul, Affganistan, yn 2003.

Plant digartref sy'n byw ar strydoedd y ddinas yw plant y strydoedd. Maen nhw'n aml yn amddifad.

Yn ôl UNESCO mae tua 150 miliwn o blant y strydoedd yn y byd heddiw. Ymhlith achosion eu sefyllfa mae trais yn y cartref, camdrin alcohol a chyffuriau, marwolaeth rhieni, chwalu'r teulu, rhyfel, trychineb naturiol, ac argyfwng economaidd-gymdeithasol. Er mwyn goroesi ar y strydoedd maent yn chwilota, yn cardota, ac yn pedlera.[1]

Hen air am blentyn y stryd yw "Arab"[2] neu "Arabiad".[3]

  1. (Saesneg) Street children. UNESCO. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  2.  Arab. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  3.  Arabiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne