Math | plasty gwledig, gardd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Plas Brondanw |
Lleoliad | Llanfrothen |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 27 metr |
Cyfesurynnau | 52.96°N 4.06125°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy yng Ngwynedd, Cymru, yw Plas Brondanw, a gysylltir â gweledigaeth bensaernïol Clough Williams-Ellis, cynllunwr Portmeirion. Mae'r ystâd, a leolir ger y Garreg yng nghymuned Llanfrothen yn nhroedfryniau Eryri, yn adnabyddus am ei gerddi hefyd.
Dilyn athroniaeth y Mudiad Celf a Chrefft wnaeth Clough Williams-Ellis wrth ailgynllunio Plas Brondanw yn dilyn tân enfawr yn 1951. Aeth ati i ailgynllunio'r tŷ gan ddefnyddio defnyddiau a darnau allan o ddwsinau o dai hanesyddol eraill. Dull Siorsaidd oedd yn boblogaidd yr adeg honno, ac felly roedd Clough yn torri tir newydd yn gwneud hyn. Gosododd bethau megis colofnau, porticos, rheiliau a.y.y.b. yn y tŷ mewn ffordd unigryw iawn. Cymerodd e ddwy flynedd i wneud y gwaith. Gellir gweld ôl y cynllunydd ym mhob cwt a chornel. Mae'r ystâd yn ymestyn dros 3000 erw ac mae'n cynnwys 53 o gartrefi a 5 fferm.
Cwblhaodd John ap Hywel y gwaith o adeiladu'r Plas Brondanw gwreiddiol tua 1550.
Mae Ystad Brondanw a Phortmeirion yn eiddo i Elusen Gofrestredig, bellach, sef: Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis.