Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | hylif allgellog, sylwedd biogenig, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | gwaed |
Yn cynnwys | dŵr, halen, albumins, globulins, glwcos |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y rhan hylifol o waed yw plasma gwaed sy'n cludo maetholion i gelloedd yr organau, yn cludo gwastraff metabolaidd i'r arennau, yr afu a'r ysgyfaint, ac yn cludo'r celloedd gwaed o amgylch y corff.[1] Dŵr sy'n cyfri am 92% o blasma, ac mae'r hylif hefyd yn cynnwys siwgr, braster, protein, a thoddiant halen sy'n cludo'r celloedd coch, y celloedd gwyn, a'r platennau. Mae'n cyfri am ryw 55% o gyfaint gwaed y corff dynol.[2] Mae plasma hefyd yn dosbarthu gwres trwy'r corff ac yn bwysig wrth gynnal pwysedd gwaed ac homeostasis.[1]