Pluen (gwisg filwrol)

Am bluen fer, doredig (Saesneg: hackle), gweler pluen fer.
Marchfilwr y Garde républicaine yn gwisgo helmed blu ar Ddydd Bastille.

Mae nifer o luoedd milwrol yn gwisgo pluen (Saesneg: plume) ar eu penwisg fel rhan o'u gwisg filwrol. Gall fod yn bluen unigol neu'n siobyn neu linyn o blu. Daeth yn boblogaidd iawn gan fyddinoedd Ewrop yn yr 17g a'r 18g, yn enwedig gan swyddogion.[1]

  1. Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 103.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne