![]() Sgwba-blymiwr hamddenol | |
Enghraifft o: | galwedigaeth, difyrwaith ![]() |
---|---|
Math | plymio tanddwr ![]() |
![]() |
Mae plymio sgwba (neu ddeifio sgwba) yn ddull o ddeifio tanddwr lle mae'r plymiwr yn defnyddio offer anadlu tanddwr hunangynhwysol (sgwba), sy'n gwbl annibynnol ar y unrhyw gyflenwad arwyneb, i anadlu o dan y dŵr.[1] Daw'r enw "sgwba" trwy Gymreigio'r gair Saesneg "scuba", sydd ei hun yn dod o'r llythrenw S.C.U.B.A: self contained underwater breathing apparatus.
Mae sgwba-blymwyr yn cario ffynhonnell nwy anadlu eu hunain, fel arfer aer cywasgedig.[2] Mae hwn yn caniatáu mwy o annibyniaeth a rhyddid i symud na deifwyr sydd â chyflenwad o'r arwyneb, ac yn caniatáu plymiad sy'n bara'n hirach na deifwyr sy'n dal eu hanadl.
Gellir plymio sgwba'n hamddenol neu'n broffesiynol Mae plymio sgwba proffesiynol yn ymddangos mewn nifer o gymwysiadau, gan gynnwys rolau gwyddonol, milwrol ac wrth ddiogelu'r cyhoedd. Serch hynny mae'r rhan fwyaf o ddeifio masnachol yn defnyddio offer plymio gyda chyflenwad o'r arwyneb pan fydd hyn yn bosib. Yn Saesneg byddwn yn cyfeirio at sgwba-blymwyr sy'n cyflawni gweithrediadau cudd y lluoedd arfog fel frogmen; neu fel arall nofwyr tanddwr, deifwyr ymladd neu nofwyr ymosodol.[3]
Mae sgwba-blymiwr yn symud o dan y dŵr yn bennaf trwy ddefnyddio esgyll sydd ynghlwm wrth eu traed. Gellir hefyd symud trwy ddefnyddio gyriant allanol o gerbyd gyriant plymwyr, neu sled wedi'i dynnu o'r arwyneb.[4] Offer arall sydd ar gael i wella profiad sgwba-blymwyr yw: mwgwd i wella golwg tanddwr, amddiffyniad i'r oerfel, ac offer i reoli hynofedd. Mae rhai sgwba-blymwyr yn defnyddio snorcel wrth nofio ar yr wyneb.
Mae angen i sgwba-blymwyr cael eu hyfforddi gan hyfforddwyr sy'n gysylltiedig â'r sefydliadau ardystio plymwyr, sy'n cyhoeddi'r ardystiadau sydd eu hangen er mwyn plymio sgwba.[5] Mae'r rhain yn cynnwys gweithdrefnau safonol ar gyfer defnyddio'r offer, delio â'r peryglon cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd tanddwr, a gweithdrefnau brys ar gyfer hunangymorth a chymorth i blymwyr eraill efallai bydd â phroblemau. Mae lefel sylfaenol o ffitrwydd ac iechyd yn angenrheidiol i fwyafrif o'r sefydliadau hyfforddi, ond bydd angen lefel uwch o ffitrwydd ar gyfer rhai cymwysiadau.[6]