Rhaglen gomedi a ddarlledid ar S4C ddechrau'r nawdegau oedd Pobl y Chyff. Roedd yn serennu Rhys Ifans a Meirion Davies fel "Y Ddau Ffranc", cymeriadau a grëuwyd yng rhaglenni adloniant Swigs o'r Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd y sioe yn cymryd lle yn 'nhy' y ddau Ffranc ond roedd yn dangos y stiwdio yn llawn a'r gynulleidfa fyw. Byddai'r stori yn y stiwdio yn gweu gyda storiau wedi eu ffilmio o flaen llaw ar leoliad. Gwahoddwyd enwogion Cymru a thu hwnt fel gwesteion ar y sioe a byddai'r actores Seisnig Cleo Rocos yn ymddangos yn rheolaidd fel "Bronwen" yn ei gwisg Gymreig draddodiadol. Fel arfer byddai grŵp hefyd yn chwarae ar y sioe.